Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (203) |
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 12 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Dirprwy Lywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.16
3 Datganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio: Rôl Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid wrth Fynd i’r Afael â’r Agenda Trechu Tlodi
Dechreuodd yr eitem am 14.34
4 Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Trechu Tlodi Tanwydd drwy Effeithlonrwydd Ynni
Dechreuodd yr eitem am 15.04
5 Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Model Cenedlaethol o Ddysgu Proffesiynol
Dechreuodd yr eitem am 15.39
6 Dadl: Gwella Iechyd Meddwl
Dechreuodd yr eitem am 16.21
NDM5521 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi’r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i wella iechyd meddwl a lles yng Nghymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed: Adolygiad Dilynol o Faterion Diogelwch 2013, wedi canfod bod “plant a phobl ifanc yn parhau i wynebu risg oherwydd eu bod yn cael eu derbyn yn amhriodol i wardiau iechyd meddwl oedolion” ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu gweithdrefn gadarnach i fyrddau iechyd adrodd ar leoliadau amhriodol ar wardiau iechyd meddwl oedolion.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno fframwaith cenedlaethol i sicrhau parhad triniaeth yn y cyfnod pontio rhwng Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed a Gwasanaethau Iechyd Meddwl Oedolion, gan gynnwys system wedi ei symleiddio i rannu gwybodaeth rhwng darparwyr.
Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod yr angen i wella trefniadau pontio ar gyfer y rheiny sy'n symud o’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed i'r Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Oedolion.
Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i neilltuo gwariant ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru ac yn galw am drefniadau monitro gwell gan fyrddau iechyd lleol er mwyn sicrhau y cyflawnir yr ymrwymiad hwn.
Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi’r cysylltiadau rhwng iechyd meddwl a lles gwael a ffactorau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol anffafriol a ffactorau croes eraill, ac yn galw am gydweithrediad gwell rhwng y GIG ac awdurdodau lleol er mwyn mynd i'r afael â'r rhain.
Derbyniwyd gwelliant 5 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gwelliant 6 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod Coleg Brenhinol y Seiciatryddion wedi nodi problemau difrifol o ganlyniad i brinder gwelyau mewn wardiau gofal aciwt, ac yn nodi y gallai’r prinder hwn arwain at ddefnyddio celloedd yr heddlu yn amhriodol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 6.
Gwelliant 7 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod pwysigrwydd gwasanaethau iechyd meddwl yn y gymuned, ac yn gresynu at y problemau sy’n parhau i godi wrth geisio cael mynediad at y gwasanaethau hyn.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
27 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 7.
Gwelliant 8 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y ffaith bod amseroedd aros ar gyfer y gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed wedi dirywio’n sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 8.
Gwelliant 9 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad o’r Fframwaith Anhwylderau Bwyta.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
53 |
0 |
0 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 9.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5521 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i wella iechyd meddwl a lles yng Nghymru.
2. Yn nodi bod Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed: Adolygiad Dilynol o Faterion Diogelwch 2013, wedi canfod bod “plant a phobl ifanc yn parhau i wynebu risg oherwydd eu bod yn cael eu derbyn yn amhriodol i wardiau iechyd meddwl oedolion” ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu gweithdrefn gadarnach i fyrddau iechyd adrodd ar leoliadau amhriodol ar wardiau iechyd meddwl oedolion.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno fframwaith cenedlaethol i sicrhau parhad triniaeth yn y cyfnod pontio rhwng Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed a Gwasanaethau Iechyd Meddwl Oedolion, gan gynnwys system wedi ei symleiddio i rannu gwybodaeth rhwng darparwyr.
4. Yn cydnabod yr angen i wella trefniadau pontio ar gyfer y rheiny sy'n symud o’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed i'r Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Oedolion.
5. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i neilltuo gwariant ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru ac yn galw am drefniadau monitro gwell gan fyrddau iechyd lleol er mwyn sicrhau y cyflawnir yr ymrwymiad hwn.
6. Yn nodi’r cysylltiadau rhwng iechyd meddwl a lles gwael a ffactorau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol anffafriol a ffactorau croes eraill, ac yn galw am gydweithrediad gwell rhwng y GIG ac awdurdodau lleol er mwyn mynd i'r afael â'r rhain.
7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad o’r Fframwaith Anhwylderau Bwyta.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
53 |
0 |
0 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 17.24
Daeth y cyfarfod i ben am 17.26
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 11 Mehefin 2014